Cynghrair rhwng nifer o ddinasoedd yn Achaea yng Ngwlad Groeg oedd Cynghrair Achaea.
Roedd y cynghrair mewn bodolaeth yn ystod y 5ed a'r 4 CC. Ail-ffurfiwyd y cynghrair yn gynnar yn y 3 CC, a daeth i gynnwys dinasoedd tu allan i Achaea ei hun, gan ddechrau gyda Sicyon. Cyn hir roedd yn rheoli rhan helaeth o'r Peloponnesos, ond daeth dan bwysau oddi wrth Sparta dan Cleomenes III. Bu raid i arweinydd y gynghrair, Aratus o Sicyon, alw am gymorth gan Antigonus Doson, brenin Macedon.
Yn ddiweddarach, dan arweiniad Philopoemen, gallodd y cynghrair fanteisio ar wendid Macedon wedi iddi gael ei gorchfygu gan fyddin Gweriniaeth Rhufain yn 197 CC. Yn 192 CC ymatebodd y cynghrair i ymgais Sparta i adennill tiriogaethau coll trwy yrru llysgenhadaeth i Weriniaeth Rhufain. Yr un pryd ymosododd byddin Achaeaidd dan Philopoemen a llynges dan Tiso ar Gythium. Llwyddodd y Spartiaid i orchfygu'r llynges, ac wedi brwydr yn erbyn byddin Sparta tu allan i Gythium gorfodwyd Philopoemen i encilio i Tegea. Roedd ail ymosodiad Philopoemen ar Sparta yn fwy llwyddiannus; gorchfygodd fyddin Nabis, tyrannos Sparta. Apeliodd Nabis i Gynghrair Aetolia am gymorth, ond pan gyrhaeddodd 1,000 o ŵyr meirch Aetolaidd dan Alexamenus, llofruddiwyd Nabis a meddiannwyd Sparta gan yr Aetoliaid. Llwyddodd pobl Sparta i'w gorfodi i encilio o'r ddinas, ond manteisiodd Philopoemen a'r fyddin Achaeaidd ar y cyfle i gipio Sparta, a'i gorfodi i ymuno â Chynghrair Achaea. Daeth y cynghrair yn feistr ar y cyfan o'r Peloponnesos.
Pan fu rhyfel rhwng Rhufain a Perseus, brenin Macedon, (171-168 CC), bu'r cynghrair yn trafod cytundeb gyda Perseus. Wedi gorchfygu Perseus, cosbodd Rhufain y cynghrair trwy gymeryd rhai cannoedd o ddinasyddion amlwg i Rufain fel gwystlon, yn cynnwys yr hanesydd Polybius. Yn 146 CC, gwrthryfelodd Cynghrair Achaea yn erbyn Rhufain, ond gorchfygwyd hwy gan fyddin Rufeinig dan Lucius Mummius. Dinistriwyd dinas Corinth a chwalwyd y gynghrair.